[
Home [Llandudno Parish Newsletters ]
  [Stella Maris

EGLWYS GATHOLIG LLANDUDNO
Ein Harglwyddes Seren y Môr

RESPONSES FOR THE WELSH MASS


THE SIGN OF THE CROSS

Yn enwr Tad ar Mab ar Ysbryd Glan.  Amen.

AFTER THE GREETING

A chyda thithau.

THE CONFITEOR

Cyffesaf i Dduw hollalluog
ac i chwithau fy mrodyr a’m chwiorydd,
fy mod wedi pechu’n ddirfawr;
ar feddwl, gair a gweithred,
ac o esgeulustod,
drwy fy mai, drwy fy mai,
drwy fy nirfawr fai.
Gan hynny,
rwy’n erfyn
ar Fair fendigaid y fythol forwyn,
ar yr holl angylion a’r saint,
ac arnoch chwithau,
fy mrodyr a’m chwiorydd,
i weddio drosof ar yr Arglwydd ein Duw.

OR

Arglwydd, trugarha wrthym
Crist, trugarha wrthym
Arglwydd, trugarha wrthym.

THE GLORIA

Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd
i ddynion o ywyllys da.
Moliannwn di, bendithiwn di,
addolwn di, gogoneddwn di,
diolchwn i ti am dy fawr ogoniant,
Arglwydd Dduw, frenin nefol,
Duw Dad hollalluog.
Arglwydd Iesu Grist,
yr unig-anedig Fab.
Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad,
tydi sy’n dwyn ymaith  bechodau’r byd,
trugarha wrthym:
tydi sy’n dwyn ymaith  bechodau’r byd,
derbyn ein gweddi;
tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad,
trugarha wrthym.
Oblegid ti yn unig syn santaidd,
Ti yn unig yw’r Arglwydd,
Ti yn unig, Iesu Grist, sy’n oruchaf,
gyda’r Ysbryd Glan
yng ngogoniant Duw Dad. Amen.

AFTER THE READINGS

Priest:      Gogoniant i Dduw am ei air
People:    Diolch i ti, o Dduw.

BEFORE THE GOSPEL

Priest:      Yr arg1wydd a fo gyda chwi.
People:     A chyda thithau
Priest:      Darlleniad o
r Efengyl Sanctaidd
                 yn ol ...
People:    Gogoniant i ti, o Arg1wydd.

AFTER THE GOSPEL

Priest:      Gogoniant i Dduw am ei air.
People:     Moliant iti, o Grist.

THE CREED

Credaf yn yn Duw, Tad Hollalluog,
Gwneuthurwr nef a daear
a phopeth gweledig ac anweledig.
Ac yn un Arglwydd Iesu Grist
Unig-anedig Fab Duw,
wedi ei genhedlu o’r Tad cyn yr holl oesoedd.
Duw o Dduw, llewych o lewych,
gwir Dduw o wir Dduw,
wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,
yn un hanfod a’r Tad.
Yr hwn y gwnaed popeth drwyddo;
yr hwn, erom ni ddynion
ac er ein hiachawdwriaeth
a ddaeth i lawr o’r nefoedd,
ac a gnawdolwyd trwy’r Ysbryd Glan
o Fair Forwyn, ac a ddaeth yn ddyn.
Croeshoeliwyd ef hefyd drosom ni
dan Pontius Pilat
dioddefodd, ac fe’i claddwyd.
Ac atgyfododd y trydydd dydd
yn ol yr ysgrythurau,
ac esgynnodd i’r nef,
ac eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
A daw Ef drachefn mewn gogoniant
i farnu’r byw a’r meirw,
a diwedd ni bydd ar ei deyrnas.
A chredaf hefyd yn yr Ysbryd Glan,
yr Arglwydd a’r Bywiawdwr,
sy’n deillio o’r Tad a’r Mab,
yr hwn gyda’r Tad a’r Mab
a gydaddolir ac a gydogoneddir,
ac a lefarodd drwy’r proffwydi.
Ac yn un Eglwys Lan, Catholig ac Apostolig.
Addefaf un bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliaf atgefodiad y meirw
a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.

INTERCESSIONS  - THE HAIL MARY

Henffych well, Fair, gyflawn o ras y mae’r Arglwydd gyda thi; bendigedig wyt ti ymhlith merched
a bendigedig yw ffrwyth dy groth di, Iesu.
 Sanctaidd Fair, Fam Duw, gweddia drosom ni bechaduriaid yn awr hon ac yn awr ein hangau. Amen.

GLORIA PATRI

Gogonaint i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân: megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

OFFERTORY RESPONSE

Bendigedig yw duw yn dragywydd.

PRAY MY SISTERS AND BROTHERS

Priest:      Gweddiwch .....
People:    Derbynied yr Arglwydd yr aberth o
th
                 ddwylo, er mawl a gogoniant i
w enw,
                 ac er lles i ni, ac i
w Eglwys sanctaidd oll.

BEFORE THE EUCHARISTIC PRAYER

Priest:      Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
People:     A chyda thithau.
Priest:       Dyrchafwn ein calonnau.
People:     Yr ydym wedi
u dyrchafu at yr Arglwydd.
Priest:       Diolchwn i
r Arglwydd ein Duw.
People:     Addas a chyfiawn ydyw.

THE SANCTUS

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd,
Arglwydd Dduw’r lluoedd.
Mae nef a daear yn llawn o’th ogoniant.
Hosanna yn y goruchaf.
Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.
Hosanna yn y goruchaf.

THE EUCHARASTIC ACCLAMATION

Cyhoeddwn dy farwolaeth, Arglwydd,
Addefwn dy atgyfodiad nes i ti ddod.

THE LORD'S PRAYER

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys, megis yn y nef,
felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
eithr gwared ni rhag drwg.
  
Priest:
      Gwared ni ...
 
Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a nerth a gogoniant,
yn oes oesoedd.

THE PEACE

Priest:      Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda
                 chwi bob amser.
People:     A chyda thithau.

THE AGNUS DEI

Oen Duw, syn’n dwyn ymaith bechodau’r byd,
trugarrha wrthym.
Oen Duw, syn’n dwyn ymaith bechodau’r byd,
trugarrha wrthym.
Oen Duw, syn’n dwyn ymaith bechodau’r byd,
dyro i ni dangnefedd.

AT HOLY COMMUNION

Priest:      Wele oen duw, eler hwn syn dwyn ymaith
                 bechodau'r byd. Gwyn eu byd y rhai a
                 elwir i wledd yr oen.
People:     Arglwydd, nid wyfi
n deilwng i ti ddyfod
                 dan fy nho, eithr yn unig dywed y gair
                 a daw fy enaid yn iach.

ON RECEIVING HOLY COMMUNION

Priest:      Corff Crist (Gwaed Crist)
People:     Amen.

THE BLESSING & DISMISSAL

Priest:      Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
People:     A chyda thithau.
Priest:       Bendith Duw hollalluog a fo gyda chwi, y
                 Tad a
r Mad ar Ysbryd Glan.
People:     Amen.
Priest:       Awn ymaith mewn tangnefedd.
People:     Diolch i ti, o Dduw. 

Open and download English Mass Texts & Welsh Mass Texts side by side
Four A4 pages in PDF format:

  
PDF English-Welsh Texts


Our Lady Star of the Sea, Lloyd Street, Llandudno

Return to the home page